Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder newydd San Steffan, David Gauke yn ystyried galw am adolygiad barnwrol i’r penderfyniad i ryddhau’r treisiwr John Worboys o’r carchar ar ôl naw mlynedd.

Cafodd y penderfyniad am ddyfodol y gyrrwr tacsi ei feirniadu gan ymgyrchwyr, gwleidyddion ac arbenigwyr cyfreithiol yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei garcharu am gyfnod amhenodol yn 2009, ac roedd yn rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo ar ôl rhoi cyffuriau i nifer o fenywod a’u treisio yn ei gerbyd.

Cafwyd e’n euog o 19 o droseddau yn erbyn 12 o bobol, ond roedd yr heddlu wedi ymchwilio i 102 o gwynion amdano.

Ond ni chafodd yr holl honiadau wrandawiad yn y llys, ac fe gafodd yr awdurdodau eu beirniadu am fethu â rhoi gwybod i’r bobol briodol ei fod yn cael mynd yn rhydd o’r carchar.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Cyfiawnder y byddai’n parhau â’r adolygiad barnwrol “dim ond os oes gobaith go iawn” y byddai’n cael ei gadw dan glo.

Croesawu

Mae cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi cael ei groesawu gan gadeirydd Pwyllgor Materion Cartref San Steffan, Yvette Cooper.

Dywedodd ar wefan gymdeithasol Twitter bod ganddi “bryderon mawr iawn am yr achos hwn”, a bod “angen adolygiad barnwrol” er mwyn “newid tryloywder y Bwrdd Parôl ar gyfer achosion yn y dyfodol”.

Dywedodd y gweinidog Ceidwadol Anna Soubry ei bod hi’n “ei chael yn anodd credu nad yw e bellach yn beryglus”.

Ychwanegodd yr ymgyrchwraig Sarah Green ei bod yn “croesawu” penderfyniad David Gauke, a bod “menywod wedi cael eu hesgeuluso yn yr achos hwn”.

Achosion

Cafodd 83 o gwynion eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad, ond dim ond 14 ohonyn nhw gafodd wrandawiad yn y llys.

Doedd y gweddill ddim wedi pasio’r ‘prawf tystiolaeth’.

Cafodd tri o gwynion eraill eu derbyn ar gyfer yr achos, ond doedd dim digon o dystiolaeth yn y pen draw i sicrhau collfarn.

Derbyniodd Heddlu Llundain 19 o gwynion pellach ar ôl i John Worboys gael ei ganfod yn euog.