Mae arweinydd y DUP, Arlene Foster, wedi galw am gryfhau’r berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon.

Mewn araith ar Brexit yn Swydd Kerry yn y Weriniaeth, dywedodd y dylai arweinwyr o bob rhan o Iwerddon weithio gyda’i gilydd er lles pawb.

“Ni fydd y buddiannau a rannwn yn dod i ben ar y diwrnod y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol,” meddai. “Bydd y cyd-fuddiannau hyn drwy Ynysoedd Prydain yn parhau.”

Roedd yn siarad mewn cynhadledd economaidd yn Killarney i drafod problemau yn ymwneud â Brexit.

Mewn cyfarfod gyda Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney, awgrymodd ddefnyddio Cyngor Prydain ac Iwerddon, a gafodd ei sefydlu fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, i gryfhau’r berthynas rhwng y ddwy wladwriaeth.

“Mae’r seilwaith – yn ffurf Cyngor Prydain ac Iwerddon – yn bod eisoes i’n galluogi ni i barhau i weithio gyda’n gilydd mor agos ag erioed ar faterion sydd o fudd i’r ddwy wlan,” meddai.