Mae’r heddlu’n amau bod tân mawr yng ngorsaf reilffordd Nottingham ddoe wedi cael ei gynnau’n fwriadol.

Fe fu 60 o ddiffoddwyr tân wrthi drwy’r dydd yn ceisio dod â’r tân o dan reolaeth ddoe, ac mae’r adeilad wedi’i ddifrodi’n sylweddol.

Mae gwasanaethau trên wedi ailgychwyn fore heddiw ar ôl i beirianwyr gadarnhau fod yr orsaf yn ddiogel.

“Drwy drugaredd, mae’n ymddangos na chafodd neb ei anafu yn y tân,” meddai Jake Kelly, rheolwr gyfarwyddwr cwmni trenau EMT, sy’n gyfrifol am yr orsaf.

“Byddwn yn parhau i gefnogi’r ymchwiliad i achos y tân ac rydym yn gofyn i unrhyw un a all fod â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain.”