Mae adroddiad i’r ymosodiad ar Arena Manceinion yn argymell y dylai cyrff cyhoeddus sy’n delio â theuluoedd mewn galar ddilyn rheolau a gafodd eu cyhoeddi ar ôl trychineb Hillsborough.

Mae panel annibynnol, wedi’i benodi gan Faer Manceinion, Andy Burnham, wedi bod yn edrych ar y paratoadau ac ymateb cyrff i’r ymosodiad brawychol.

Fe laddodd yr hunan-fomiwr, Salman Abedi, 22 o bobol a chafodd cannoedd eu hanafu pan ffrwydrodd fom ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande ar Fai 22 y llynedd.

Mae adroddiad y panel o arbenigwyr yn argymell bod cyrff cyhoeddus yn yr ardal yn sefydlu “siarter i deuluoedd mewn galar drwy drasiedi gyhoeddus”, sydd wedi’i hysbrydoli gan deuluoedd Hillsborough.

Argymhellion

Gofynna’r siarter i sefydliadau ymrwymo i ddysgu gwersi o Hillsborough i sicrhau bod safbwynt teuluoedd mewn galar ddim yn cael ei golli mewn unrhyw drasiedïau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys blaenoriaethu budd y cyhoedd, helpu i ganfod y gwir drwy fod yn agored ac yn onest wrth gael eu craffu, cael eu dwyn i gyfrif, a pheidio camarwain y cyhoedd na’r cyfryngau.

Siaradodd y panel â’r sawl mewn galar a’r bobol gafodd eu hanafu, y gwasanaethau brys, y Gwasanaeth Iechyd, cynghorau lleol a thua 170 o bobol, gan gynnwys pobol ifanc oedd yn y gyngerdd noson yr ymosodiad.