Fe fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn ymddangos gerbron panel o Aelodau Seneddol ddiwedd y mis, er mwyn ateb cwestiynau’n ymwneud â’r ffrae gyflogau ddiweddaraf.

Mae’r Pwyllgor dros faterion digidol, diwylliant, cyfryngau a chwaraeon yn San Steffan wedi estyn gwahoddiad i’r Arglwydd Tony Hall ddod i drafod gyda nhw sut mae’r BBC dros y flwyddyn ddiwethaf wedi sicrhau bod merched a dynion yn cael eu talu’n gyfartal.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl i olygydd y BBC yn Tsieina, Carrie Gracie, ymddiswyddo ddydd Llun wrth iddi honni bod dwy ran o dair o’r rheiny sy’n ennill cyflog o dros £150,000 gyda’r BBC yn ddynion.

Fe gyhoeddodd hefyd eu bod hi’n bersonol yn ennill cyflog o £135,000, a’i bod hi wedi gwrthod cynnig o £45,000 ychwanegol i’w chyflog pan wnaeth hi gwyno am y mater.

Fe fydd yr Arglwydd Tony Hall yn mynd o flaen y pwyllgor ar Ionawr 31.