Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud na fydd yn teithio i’r Deyrnas Unedig i agor y llysgenhadaeth Americanaidd newydd.

Ar Twitter, roedd Donald Trump wedi beirniadu lleoliad y prosiect sydd wedi costio $1.2bn [£886m], gan ddweud bod symud y swyddfa o ardal Mayfair i Nine Elms yr ochr arall o Afon Tafwys, ar y dde, yn “fargen wael”.

“Y rheswm dw i wedi canslo fy nhaith i Lundain yw nad ydw i’n gefnogwr mawr o benderfyniad y Weinyddiaeth Obama i werthu un o’r llysgenadaethau gorau, yn y lleoliad gorau, am ‘nesa’ peth i ddim’, dim ond i adeiladu un arall mewn lleoliad gwael am 1.2 biliwn o ddoleri.

“Bargen wael. [Roedden nhw] am i fi dorri rhuban – NA!”

Roedd disgwyl iddo ymweld â gwledydd Prydain ym mis Chwefror ac roedd protestiadau wedi’u trefnu i wrthwynebu’r ymweliad.

Er bod Donald Trump wedi rhoi’r bai ar Barack Obama am symud y llysgenhadaeth, cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu cyhoeddi ym mis Hydref 2008, pan oedd George W Bush yn y Tŷ Gwyn.

Ymateb

Wrth ymateb i benderfyniad yr Arlywydd, dywedodd Aelod Seneddol Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty ar Twitter, “Rheswm canslodd @realDonaldTrump daith i Lundain yw nad ydyn ni’n gefnogwr mawr o’i ymddygiad hiliol, rhywiaethol a difeddwl.

“Protestiadau mawr os byddai wedi dod i dorri rhuban. Roedd e eisiau triniaeth y carped coch a thorfeydd bonllefus – NA!”

Fe wnaeth yr AS o Gymru alw am ganslo ymweliad Trump ar lawr Tŷ’r Cyffredin ar ôl iddo ail-drydar fideos ymfflamychol y grŵp ffasgaidd, Britain First.