Mae Nigel Farage yn dweud ei fod ond y dim â galw am ail refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd – a hynny er mwyn “lladd” y mater unwaith ac am byth.

Mae cyn-arweinydd plaid UKIP wedi awgrymu heddiw y byddai pleidlais aall yn rhoi taw ar y “cwyno a’r crio” gan y rheiny sy’n gwrthwynebu Brexit – yn eu plith, y gwleidyddion Tony Blair, Nick Clegg a’r Arglwydd Adonis.

Ac mae Nigel Farage yn cydnabod ei fod yn newid ei feddwl yn ara’ deg ac yn cynhesu at y syniad o gynnal refferendwm arall.

“Yr hyn sy’n sicr ydi fod Cleggiaid, Blairiaid ac Adonisiaid y byd yma byth yn mynd i roi’r gorau i gwyno,” meddai Nigel Farage ar raglen The Wright Stuff ar Channel 5 heddiw. “Maen nhw’n siwr o fynd yn eu blaen yn cwyno ac yn crio trwy gydol y broses.

“Felly efallai – jyst efallai – fy mod yn cyrraedd y pwynt o feddwl y dylen ni gynnal ail refferendwm,” ieddai wedyn. “Mi fyddai hynny’n siwr o ladd y mater am o leia’ genhedlaeth.

“Y tro nesa’, fe fyddai’r ganran o’r boblogaeth a fyddai’n pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn sylweddol uwch na’r tro diwethaf. A dyna ni wedyn, wedi rhoi diwedd ar y peth i gyd,”