Nid yw’r BBC “uwchlaw’r gyfraith” pan mae’n dod at dalu cyflogau cyfartal i ddynion a merched, yn ôl cyn-ddarlledwraig.

Mae’r Farwnes Joan Bakewell hefyd wedi cyhuddo’r BBC o “or-gymhlethu” pwnc a ddylai fod yn un syml.

Fe wnaeth y sylwadau hyn yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe, a hynny mewn dadl a gafodd ei sbarduno gan ymddiswyddiad golygydd y BBC yn China, Carrie Gracie, ddechrau’r wythnos.

Roedd Carrie Gracie wedi penderfynu gadael eu swydd gan honni bod dwy ran o dair o’r rheiny sy’n ennill cyflog o dros £150,000 gyda’r BBC yn ddynion.

Ers hynny, mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi dweud eu bod nhw wedi ysgrifennu at y BBC ynglŷn â’i honiadau.

Oedi’r BBC

Ond wrth siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd y Farwnes Joan Bakewell fod y BBC wedi cymryd amser hir i barchu gofynion y Ddeddf Gydraddoldeb, a’i bod nhw’n dda iawn am wneud pwnc syml ymddangos yn un cymhleth.

“Nid yw’r BBC uwchben y gyfraith”, meddai. “Yr hyn maen nhw’n dda am wneud yw dadlau achos sy’n gymhleth iawn, ond sydd, mewn gwirionedd, yn syml iawn.

“Fe fyddai’r BBC yn dweud ‘Ry’n ni eisiau tan 2020 i ddatrys pethau, mae’n anodd iawn’ – dyw e ddim yn anodd iawn.

“Fe ddylai merched gael cyflog teg am waith teg, ac maen nhw wedi aros yn rhy hir amdano.”