Mae cynghorau Cymru a Lloegr wedi anfon beilïod at 41,000 o gwmnïau a oedd yn gwneud eu gorau i dalu trethi busnes uwch yn dilyn ailbrisio dadleuol y llynedd.

Mae’r beilïod hyn â’r pwerau i fynd i mewn i adeiladau, i atafaelu nwyddau a’u gwerthu mewn ocsiwn cyhoeddus er mwyn setlo’r dyledion.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg wedi cais Rhyddid Gwybodaeth ynglyn â sut y mae 1,37 miliwn o fusnesau mewn 247 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn delio gyda’r modd y cafodd eu biliau treth eu heffeithio gan drefn newydd llywodraeth San Steffan o fis Ebrill y llynedd.

Ac nid y rheiny y mae eu biliau wedi codi sy’n cael trafferth, yn ôl yr ystadegau. Mae’n ymddangos fod y drefn newydd yn golygu bod yna fusnesau sy’n talu biliau anghymesur o uchel mewn ardaledd lle mae’r economi’n wan, neu lle mae gwerth adeiladau yn gostwng.