Rhaid i ferched gael yr un opsiynau triniaeth a dynion ar ôl trawiad ar y galon i leihau nifer y marwolaethau ymhlith merched, yn ôl elusen.

Mae menywod ar gyfartaledd yn llai tebygol na dynion i dderbyn y triniaethau sy’n cael eu hargymell ar ôl dioddef trawiad ar y galon, awgryma gwaith ymchwil sy’n cael ei ariannu yn rhannol gan Sefydliad Prydeinig y Galon.

O ran cleifion sy’n marw yn dilyn trawiad ar y galon, mae’r bwlch rhwng y rhywiau “wedi gostwng yn ddramatig” pan gafodd menywod yr un triniaethau sy’n cael eu cynnig i ddynion, dywedodd yr elusen am yr ymchwil a gyhoeddwyd yn y Journal of the American Heart Association.

Roedd menywod a ddioddefodd STEMI, y math mwyaf difrifol o drawiad ar y galon, yn fwy na thraean yn llai tebygol na’u cymheiriaid gwrywaidd i gael llawdriniaeth ddargyfeiriol neu gael stentiau, bron i chwarter yn llai tebygol o gael statinau, a 16% yn llai tebygol o gael aspirin, dywedodd Sefydliad Prydeinig y Galon.

“Pan dderbyniodd menywod yr holl driniaethau a argymhellwyd ar gyfer cleifion sydd wedi dioddef trawiad ar y galon, gostyngodd y bwlch o ormod o farwolaethau rhwng y rhywiau,” meddai’r elusen.

‘Angen darpariaeth gyfartal’

Cynhaliwyd astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Leeds a Sefydliad Karolinska yn Sweden i 180,368 o gleifion a ddioddefodd trawiad ar y galon mewn cyfnod o 10 mlynedd hyd at 2013.

Dywedodd yr Athro Chris Gale, o Brifysgol Leeds, a gyd-ysgrifennodd yr astudiaeth, nad yw’r farn nodweddiadol o glaf trawiad ar y galon bob amser yn gywir.

“Mae angen i ni weithio’n galetach i symud y canfyddiad bod trawiad ar y galon yn effeithio ar ryw fath o berson yn unig,” meddai.

“Fel arfer, pan fyddwn ni’n meddwl am glaf trawiad ar y galon, rydym yn gweld dyn canol oed sydd dros bwysau, yn cael diabetes ac yn ysmygu.

“Nid dyma’r achos bob amser – mae trawiad ar y galon yn effeithio ar sbectrwm ehangach y boblogaeth, gan gynnwys menywod.

“Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn awgrymu bod yna ffyrdd clir a syml o wella canlyniadau menywod sydd â thrawiad ar y galon – rhaid i ni sicrhau bod triniaethau ar sail menywod yn cael eu darparu’n gyfartal.”

Er bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar Sweden ac yn dangos gwahaniaeth, gallai’r sefyllfa yn y DU fod yn waeth, ychwanegodd.

Dywedodd yr Athro Jeremy Pearson, cyfarwyddwr meddygol cysylltiol yn Sefydliad Prydeinig y Galon, fod mwy o fenywod yn marw o glefyd coronaidd y galon na chanser y fron yn y DU.

“Mae canfyddiadau’r ymchwil hon yn peri gofid – mae menywod yn marw oherwydd nad ydynt yn derbyn triniaethau profedig i achub bywydau ar ôl trawiad ar y galon,” meddai.

“Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn ar frys gan ei fod yn rhywbeth y gellir ei newid yn hawdd. Drwy sicrhau bod mwy o fenywod yn derbyn y triniaethau a argymhellir, byddwn yn gallu helpu mwy o deuluoedd i osgoi’r boen o golli anwylyd i glefyd y galon. ”