Mae pryderon am ddynes 32 oed a’i mab, sydd ar goll o Bournemouth ers dydd Mercher.

Cafodd Sheralee White a’u mab eu gweld ddiwethaf yn Victoria Place yn y dref.

Yn ôl Heddlu Swydd Dorset, mae gan y ddynes wallt brown tywyll, sydd wedi’i liwio’n goch.

Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo siaced ledr ddu, sgarff lwyd, jeans tenau du ac esgidiau du.

Mae gan ei mab wallt golau byr, ac roedd e mewn cadair wthio a blanced drosto.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n “gynyddol bryderus” am y ddau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Swydd Dorset ar 101.