Mae un o’r ddau lofruddiodd James Bulger wedi ei gyhuddo o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Bydd achos Jon Venables yn breifat ac yn cael ei gynnal mewn llys anhysbys, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Aeth Jon Venables yn ôl i’r carchar ym mis Tachwedd ar ôl iddo gael ei gyhuddo o fod â lluniau o blant yn cael eu cam-drin.

“Mae’r dyn oedd yn arfer cael ei adnabod fel Jon Venables yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â lluniau anweddus o blant a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron,” meddai datganiad y Gwasanaeth Erlyn.

“Er mwyn sicrhau cyfiawnder, nid oes manylion pellach yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd ac mae’r broses yn gaeth i gyfyngiadau gohebu.”

Fe wnaeth Jon Venables a’i ffrind Robert Thompson arteithio a lladd James Bulger, oedd yn ddwy oed, yn Lerpwl yn 1993. Roedd y ddau yn 10 oed ar y pryd.

Ar ôl bod dan glo am wyth mlynedd, cafodd y ddau aros yn anhysbys am byth a’u rhyddhau gydag enwau newydd yn 2001.