Fe werthwyd 5.6% yn llai o geir newydd y llynedd, ac mae disgwyl cwymp arall mewn gwerthiant eleni.
Cafodd 2.5 miliwn o geir newydd eu cofrestru yn 2017 o’i gymharu â 2.69 miliwn yn 2016, yn ôl ffigyrau Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT).
Ym mis Rhagfyr bu cwymp o 13.9% yn nifer y ceir newydd a werthwyd, gyda’r galw am geir diesel yn gostwng 31% yn ystod mis ola’r flwyddyn a 17% drwyddi draw yn ystod y flwyddyn.
Blwyddyn “ansicr iawn”
Fe ddywedodd Prif Weithredwr SMMT, Mike Hawes, ei fod yn darogan y bydd y farchnad yn parhau i weld cwymp yn ystod 2018, gyda rhwng 5% a 7% yn llai o geir newydd yn cael eu prynu.
Disgrifiodd 2017 fel blwyddyn “ansicr iawn” i’r farchnad geir, wrth i hyder busnesau a phrynwyr ostwng.
Roedd hefyd yn dweud bod yr ansicrwydd tros Brexit yn effeithio ar y diwydiant, wrth i wneuthurwyr oedi rhag gwneud penderfyniadau am fuddsoddi.