Fe ddylai cwsmeriaid dalu 25c yn ychwanegol am gwpanau diodydd poeth plastig gyda’r arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau ailgylchu, meddai Aelodau Seneddol.

Fe ddylai’r holl gwpanau coffi plastig neu gardbord gael eu hailgylchu erbyn 2023 ac fe ddylen nhw gael eu gwahardd os nad yw’r targed yn cael ei gyrraedd, meddai’r Pwyllgor Amgylchedd.

Mae’r pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno treth o 25c ar gwpanau diodydd poeth ar ben pris y coffi, gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cwpanau a phecynnau bwyd a diod eraill yn cael eu hailgylchu.

Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor, Mary Creagh, mae tua 2.5 biliwn o gwpanau coffi plastig yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain – digon i wneud cylch cyfan o’r byd “pump a hanner o weithiau”. Mae’r plastig tu mewn i’r cwpanau yn ei gwneud yn gostus i’w hailgylchu.

“Angen ailgylchu pob cwpan coffi erbyn 2023”

Clywodd y pwyllgor bod llai na 1% o gwpanau plastig yn cael eu hailgylchu gan mai dim ond tri chyfleuster sydd yn y Deyrnas Unedig sy’n gallu rhannu’r elfennau plastig a phapur.

“Rydym ni’n galw am ostyngiad yn y defnydd o gwpanau dros dro, i hyrwyddo cwpanau y gellir eu hailgylchu dros gwpanau y gellir eu taflu, ac i ailgylchu pob cwpan coffi erbyn 2023,” meddai Mary Creagh.

Mae rhai siopau eisoes yn cynnig gostyngiad ar ddiodydd poeth i gwsmeriaid sy’n defnyddio cwpanau y gellir eu hail-ddefnyddio.

Ond dywed y pwyllgor mai ychydig iawn o gwsmeriaid sy’n cymryd mantais o’r gostyngiad yma. Maen nhw’n fwy tebygol o ymateb i gost ychwanegol, meddai, yn seiliedig ar lwyddiant y dreth o 5c ar fagiau plastig.

Dywedodd Starbucks y byddai’n treialu cynllun i godi 5c am gwpanau plastig mewn hyd at 25 o siopau yn Llundain am dri mis o fis Chwefror ymlaen gan ychwanegu y byddai’n rhannu canlyniadau’r prawf gyda grwpiau sydd â diddordeb cyn penderfynu ar y camau nesaf.