Mae Chris Parker, y dyn digartref a gafodd ei alw’n arwr yn dilyn yr ymosodiad brawychol ar Arena Manceinion fis Mai y llynedd, wedi cyfaddef iddo ddwyn eiddo rhai o’r dioddefwyr.

Mae wedi’i orfodi i dalu £50,000 yn ôl – arian a gafodd trwy wefan Go Fund Me gan rai oedd yn dymuno diolch iddo am ei gymorth yn sgil yr ymosodiad gan Salman Abedi ar Fai 22 y llynedd a laddodd 22 o bobol.

Cafodd lluniau camerâu cylch-cyfyng eu dangos i Lys y Goron Manceinion oedd yn dangos Chris Parker, 33, yn estyn dros gorff Pauline Healey, oedd wedi goroesi. Roedd e’n ceisio dwyn ei phwrs wrth i’w hwyres 14 oed orwedd ar lawr yn marw.

Fe ddefnyddiodd ei chardiau banc ym McDonald’s o fewn oriau, a hynny ar ôl dwyn ffôn symudol oddi ar berson ifanc arall.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ym Manceinion, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ond wnaeth e ddim ymddangos gerbron y llys ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd iddo dros nos yn cuddio mewn tŷ yn Halifax yn Swydd Efrog.

Ond wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion heddiw, plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ladrata ac un cyhuddiad o dwyll.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhuddo o ddwyn, ac fe gafodd y llys wybod am y cyhuddiadau blaenorol yn ei erbyn.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa tan Ionawr 30, pan fydd yn cael ei ddedfrydu, ac fe ddywedodd y barnwr wrtho fod cyfnod dan glo “yn debygol iawn”.