Mae ysbyty yn Lloegr wedi ymddheuro i fam am achosi marwolaeth ei baban trwy anaf i’w ben yn ystod llawdriniaeth Cesaraidd.

Fe fu farw’r baban, Carson Allen, dair awr wedi iddo gael ei eni yn Ysbyty Dinas Nottingham ar Orffennaf 3, 2013, oherwydd i ddoctoriaid achosi niwed angheuol i’r ymennydd.

Roedd y fam, Claire Smith, 42, wedi derbyn triniaeth yn 2011 a oedd yn debygol o achosi problemau iechyd, a’r cyngor fyddai iddi osgoi syrthio’n feichiog o gwbwl.

Ond ni chafodd y cyngor iawn gan feddygon ar y pryd, ac fe glywodd gwrandawiad i’r achos y dylai ymchwiliaidau llawnach fod wedi cael eu cynnal i hanes ei hiechyd.

Profiad “anodd”

Dywedodd Claire Smith fod y gwrandawiad wedi bod yn brofiad “anodd” iddi, a’i bod wedi treulio y pedair blynedd diwethaf yn credu mai arni hi yr oedd y bai am farwolaeth ei mab.

“Ro’n i’n credu bod y clwyf ar ben Carson o ganlyniad i’r driniaeth a gefais yn 2012,” meddai. “Dim ond wedi’r post-mortem y gwnes i ddarganfod ei fod wedi cael ei achosi gan scalpel.”

Mae’n disgrifio’r gofal a gafodd yn yr ysbyty yn “hynod o wael” ac “annerbyniol”.

Ysbyty’n ailadrodd ei ymddiheuriad

Yn ôl Dr Lucy Kean, pennaeth adran yn Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbyty Prifysgol Nottingham, mae’r ymddiriedolaeth yn cydymdeimlo’n llwyr â’r teulu, ac yn “ymddiheuro am unrhyw fethiannau yn y gofal”.

“Rydym ni’n sylweddoli”, meddai, “na all geiriau nac arian ddad-wneud y niwed a’r boen y mae’r teulu wedi ei brofi o ganlyniad i’r achos hwn.”