Mae pump o ddynion ac un ddynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn aelodau o’r grwp asgell dde eithafol, National Action.

Yn ôl Heddlu’r West Midlands, mae’r chwech sydd rhwng 21 a 37 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa dan Adran 41 o’r Ddeddf Terfysgaeth. Fe gawson nhw eu harestio fore heddiw (ddydd Mercher).

Mae National Action ar restr o ‘fudiadau brawychol’ ers mis Rhagfyr 2016 – y grwp asgell dde eithafol cyntaf i gael ei wahardd yng ngwledydd Prydain.