Mae pedwar o bobol wedi’u trywanu i farwolaeth yn Llundain mewn cyfres o ddigwyddiadau, sydd ddim yn gysylltiedig, o fewn 24 awr, meddai’r heddlu.

Fe gadarnhaoedd Scotland Yard bod y pedwar dyn ianc, 17 oed, 18 oed, a dau ddyn 20 oed, wedi marw o ganlyniadau i’w hanafiadau.

Bu farw tri ar Nos Galan ac un yn oriau man fore dydd Llun. Mae pumed dyn mewn cyflwr difrifol wedi digwyddiad ar ddydd Calan.

Mae pum dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag un o’r marwolaethau, meddai’r heddlu.