Mae 1,400 o geir wedi cael eu difrodi ar ôl tân mewn maes parcio aml-lawr ger Arena Echo yn Lerpwl.

Yn ôl llygad-dystion fe ddechreuodd y tân mewn hen gar Land Rover cyn lledu’n gyflym i geir eraill.

Bu diffoddwyr tân yn brwydro’r fflamau tan oriau mân bore Dydd Calan.

Cafodd Sioe Geffylau Rhyngwladol Lerpwl ar Nos Galan ei chanslo a chafodd y ceffylau eu symud i’r arena.

Dywedodd Kerry Matthews, 54, a’i bartner Patricia Heath, 55, o Wrecsam, eu bod yn ymweld â Lerpwl er mwyn dathlu’r flwyddyn newydd.

“Dywedodd un o’r diffoddwyr tân bod y maes parcio i gyd ar dân. Mi ofynnodd o ‘ar ba lawr mae eich car?’ Naethon ni ddweud ei fod ar y chweched llawr. Ac mi ddywedodd o, ‘wel, well i chi fynd i gael cwpl o ddiodydd i ddathlu’r flwyddyn newydd achos dy’ch chi ddim am gael eich car yn ôl’,” meddai Kerry Matthews.

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi dweud bod pob un o’r ceir yn y maes parcio wedi cael eu difrodi ac maen nhw wedi cynghori perchnogion y ceir i gysylltu â’u cwmnïau yswiriant.

Mae’n debyg na chafodd unrhyw un anaf difrifol yn y digwyddiad.