Mae trefnwyr dathliadau blwyddyn newydd yr Hogmanay yng Nghaeredin yn disgwyl i’r digwyddiad fynd yn ei flaen er gwaethaf Storm Dylan.

Fe allai gwyntoedd cryfion o hyd at 80 milltir yr awr daro’r brifddinas fore Sul (Rhagfyr 31), ac mae rhybudd y gallai bywydau fod mewn perygl mewn rhannau helaeth o wledydd Prydain.

Mae rhybudd oren i rannau o’r wlad, ac fe fydd yn ei le tan 3 o’r gloch prynhawn fory yng Nghaeredin.

Ond does dim rhybudd ar gyfer y nos ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd fod y trefnwyr yn trafod y sefyllfa gyda’r Swyddfa Dywydd, sydd wedi cyhoeddi rhybuddion i deithwyr.

Fe allai rhannau o’r Alban weld rhew hefyd, ac mae rhybudd melyn yn ei le tan fore Sul.