Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn arall yn dilyn ffrwgwd mewn clwb nos ym Mryste.

Cafodd y dyn, oedd yn ei 30au, ei gludo i’r ysbyty yn oriau man y bore ma, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad yng nghlwb nos Blue Mountain Club yn ardal Stokes Croft y ddinas, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.