Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i gynllwyn brawychol honedig ar ôl i ddyn 21 oed gael ei arestio yn Sheffield neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 29).
Cafodd pedwar o bobol o’r ddinas ac o Chesterfield yn Swydd Derby eu harestio ar Ragfyr 19.
Yn eu plith mae Andy Star (31) a Farhad Salah (22) sydd wedi’u cyhuddo bellach o un cyhuddiad o baratoi gweithred frawychol, a byddan nhw’n mynd gerbron yr Old Bailey ar Ionawr 19.
Mae’r dyn diweddaraf i’w arestio wedi’i gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu weithredu’n frawychol.
Mae’r heddlu’n chwilio am dystiolaeth mewn dau adeilad yn Sheffield.
Mae dyn 36 oed yn y ddalfa o hyd, a chafodd unigolyn 41 oed ei ryddhau heddiw.