Mae’r corff a oedd yn gyfriol am fflatiau Twr Grenfell ar adeg y tân chwe mis yn ôl, yn ildio eu cyfrifoldeb am filoedd o gartrefi yn ardal Kensington a Chelsea.

Mae’n dweud na fedr mwyafh ddelifro’r gwasanaethau mewn modd effeithlon.

Mae’r Kensington and Chelsea Tenant Management Organisation (KCTMO) wedi ysgrifennu at denantiaid yn dweud ei fod yn trosglwyddo eu cartrefi yn ôl i ddwylo’r awdurdod lleol, dros dro.

Mae KCTMO wedi bod yn gyfrifol am gymaint â 9.000 o gartrefi yn yr ardal.

Mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr 22, meddai’r Cadeirydd, Fay Edwards: “Y mae bwrdd y TMO wedi penderfynu, yn anffodus, na all warantu y gall ymgyrraedd â phob un o’i ddyletswyddau mewn perthynas â delifro’r nifer o wasanaethau angenrheidiol… i’r safon y mae gan drigolion yr hawl i ddisgwyl.”

Fe fydd y cartrefi’n cael eu trosglwyddo’n eu holau i ofal yr awdurdod lleol erbyn Ionawr 31, 2018.