Mae dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Doncaster.

Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi cadarnhau iddyn nhw ddod o hyd i’r corff yn ardal Balby ddydd Mawrth (Gwyl San Steffan).

Fe gafodd yr heddlu eu galw gan staff y gwasanaeth ambiwlans tua 12.20yp, ac mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu hefyd yn dweud fod gwraig 33 oed wedi’i harestio, a’i bod yn cael ei chadw yn y ddalfa.