Fe ddefnyddiodd Archesgob Caergaint ei neges Nadolig i ymsood ar “arweinwyr poblogllyd” – populist – a gwleidyddion eraill sy’n ceisio dal gafael mewn grym ar bob cyfri.

Ac fe ategodd pennaeth yr Eglwys Anglicanaidd trwy’r byd neges y Pab, trwy gymharu Mair a Joseff yn ffoi i’r Aifft gyda ffoaduriaid heddiw.

“Yn 2017, r’yn ni wedi gweld o amgylch y byd, arweinwyr gormesol sy’n caethiwo eu pobol, arweinwyr poblogllyd sy’n eu twyllo, arweinwyr llwgr sy’n lladrata oddi arnyn nhw a hyd yn oed arweinwyr democrataidd da-eu-bwriad … sy’n fodau dynol normal, ffaeledig,” meddai Justin Welby.

Fe fydd ei neges yn cael ei gweld yn feirniadaeth rannol ar yr Arlywydd Trump yn yr Unol Daleithiau – roedd yr Archesgob eisoes wedi ei feirniadu am ledaenu neges eithafwyr asgell dde.

  • Fe ddefnyddiodd y Frenhines ei neges hithau i gofio am bobol oedd wedi eu lladd a chael eu hanafu mewn ymosodiadau brawychol, ac i ddiolch i’w gŵr y Tywysog Philip, sydd wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus.