Mae’r Samariaid yn disgwyl hyd at 10,000 o alwadau gan bobol yng ngwledydd Prydain sy’n teimlo’n unig Ddydd Nadolig.

Mae disgwyl i staff dreulio cyfanswm o 123,000 o oriau rhyngddyn nhw yn sgwrsio â phobol fydd ar eu pennau eu hunain dros yr Ŵyl.

Dywedodd llefarydd fod tlodi, unigrwydd, diffyg bwyd a salwch meddwl ymhlith prif bryderon pobol sy’n cysylltu â nhw.

“Mae rhyw fath o bwysau ar bobol i deimlo’n hapus neu’n dda neu ymddwyn mewn rhyw ffordd arbennig oherwydd ei bod yn Nadolig.”

Mae hynny, meddai, yn gallu arwain at “embaras neu anallu”.

Y llynedd, atebodd y Samariaid 230,000 o alwadau rhwng Rhagfyr 18 a Ionawr 1.

Mae modd cysylltu â’r Samariaid drwy ffonio 116 123.