Mae dioddefwyr tân Grenfell yn Llundain wedi cael eu twyllo ynghylch yr amser y byddai’n ei gymryd i’w hail-gartrefu, yn ôl elusen.

Yn ôl Mark Simms, pennaeth y Rugby Portobello Trust, sydd wedi bod yn rhoi grantiau i’r gymuned leol, mae diffyg gonestrwydd wedi ychwanegu at ofid y rhai a oroesodd y trychineb.

Mae wedi dod i’r amlwg y bydd tua chant o deuluoedd Grenfell yn dal mewn gwestyau dros y Nadolig.

Roedd y Prif Weinidog Theresa May wedi dweud ar y dechrau ei bod yn gobeithio ail-gartrefu pawb o fewn tair wythnos, ond erbyn hyn y cyfan y mae arweinydd y cyngor lleol, Kensington a Chelsea, yn ei addo yw y bydd pawb mewn cartrefi o fewn blwyddyn.

Mae’r teuluoedd sy’n dal yn ddigartref wedi treulio mwy na chwe mis i mewn ac allan o westyau.

“Roedden ni’n gwybod na fyddai nad oedd modd cael hyd i 300 o gartrefi yn Kensington a Chelsea mewn tair wythnos – nac mewn tri mis,” meddai Mark Simms.

“Dw i’n meddwl bod pobl wedi cael eu twyllo. Dw i ddim yn gwybod sut y byddai modd cyflymu’r broses, ond mae’r diffyg gonestrwydd yn fwy sarhaus na’r diffyg tai.”