Mae pecynnau ‘enwaedu’ wedi cael eu tynnu oddi ar wefan Amazon yn dilyn pryderon eu bod yn annog pobol i gael llawdriniaethau cartref.

Mae’r pecyn i blant yn cynnig model o gorff plentyn lle mae modd cynnal llawdriniaethau ar organau cenhedlu gan ddefnyddio ystod o gyfarpar. Mae llawdriniaethau o’r fath yn cael eu cynnal am resymau crefyddol neu feddygol, yn aml ar blant.

Mae’r pecynnau’n cael eu gwerthu am bris sy’n amrywio o £365 i £456 – ac mae dewis rhwng modelau croen golau neu groen tywyll.

Roedd y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol wedi mynegi pryder am y pecynnau, gan fynnu eu bod yn mynd yn groes i safonau Amazon.

Dywedodd y Gymdeithas mewn llythyr eu bod yn gofidio y gallai’r pecynnau “annog ymarferwyr anghymwys i gwblhau llawdriniaethau diangen ar blant o dan amgylchiadau anghlinigol, a all arwain at niwed difrifol”.

Ond mae modd prynu’r pecynnau yn yr Unol Daleithiau o hyd, er nad oes modd eu hanfon o’r wlad honno i wledydd Prydain.