Mae dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn “aflonyddwch” ar safle Awyrlu’r Unol Daleithiau yn Suffolk, Lloegr prynhawn ma.

Mae’n debyg bod car wedi cael ei yrru at giatiau diogelwch ar safle’r Awyrlu yn Mildenhall   tua 1yp ddydd Llun (Rhagfyr 18).

Yn ôl Heddlu Suffolk cafodd ergydion eu tanio gan filwyr Americanaidd tuag at y dyn sy’n cael ei amau o’r drosedd.  Cafodd y dyn fan anafiadau yn y digwyddiad.

Nid yw’r heddlu wedi cadarnhau a yw’r digwyddiad yn cael ei drin fel achos o frawychiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon yn Washington bod y digwyddiad bellach dan reolaeth a bod y troseddwr wedi’i arestio.

Targed

Mae’n debyg bod y safle wedi bod yn darged posib i frawychwyr yn y gorffennol.

Ym mis Mai 2016 cafodd Junead Khan o Luton ei garcharu am oes am gynllwynio i ymosod ar bersonél Americanaidd ym Mhrydain.

Roedd wedi ystyried ymosod ar safle Mildenhall a safle’r Awyrlu yn Lakenheath.