Mae dau berson wedi marw a thri arall yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn gwesty moethus ar lannau Loch Lomond yn yr Alban.
Cafodd dwsinau o ddiffoddwyr tân eu galw i westy Cameron House am 6.40yb ddydd Llun.
Bu farw un person yn y fan a’r lle, a bu farw person arall yn yr ysbyty yn Paisley.
Cafodd tri pherson arall – dau oedolyn a phlentyn, oll o’r un teulu mae’n debyg – eu cludo i ysbyty yng Nglasgow i dderbyn triniaeth.
Cafodd dros 200 o westeion eu tywys o’r gwesty, a chafodd y rhan helaeth o’r adeilad ei ddifrodi, yn ôl awdurdodau. Bellach mae swyddogion yn ymchwilio i achos y tân.
Pum seren
Mae’r gwesty pum seren hwn yn safle poblogaidd ar gyfer cynnal priodasau, ac yn adnabyddus am ei fwyty seren Michelin.
Mae 136 o ystafelloedd yn yr adeilad ac ymysg enwogion sydd wedi aros yno mae U2, Cher a Take That.