Mae chwech o bobol wedi marw ac mae un arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Birmingham yn oriau man y bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Edgbaston y ddinas am oddeutu 1.10yb.
Roedd chwe cherbyd yn y gwrthdrawiad, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.
Cafodd dyn a dynes fan anafiadau ar ôl llwyddo i ddianc o’u cerbyd, ond fe fu farw gyrrwr tacsi a dynes oedd yn teithio ynddo, a bu farw’r dyn oedd yn teithio ynddo yn ddiweddarach.
Bu farw tri dyn oedd yn teithio mewn car arall yn y fan a’r lle, ac fe gafodd pedwerydd teithiwr i gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.