Fe fyddai unrhyw ymdrechion gan yr Undeb Ewropeaidd i “goloneiddio” Prydain yn annerbyniol, yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Jacob Rees-Mogg.

Wrth i Lywodraeth Prydain barhau i drafod telerau ymadael, mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi dweud y gall aros yn rhan o’r undeb dollau, y farchnad sengl a Llys Cyfiawnder Ewrop tan bod cytundeb yn ei le.

Y bwriad yw gadael yn llwyr erbyn 2019, ond mae Jacob Rees-Mogg wedi rhybuddio na all Llywodraeth Prydain roi rhwydd hynt i’r Undeb Ewropeaidd goloneiddio’r wlad cyn hynny.

Wrth i’r cyn-Ganghellor Ken Clarke ddweud wrth raglen Newsnight y BBC fod angen osgoi “cwympo oddi ar y dibyn”, dywedodd y byddai’n “drychinebus” pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ychwanegodd Jacob Rees-Mogg y byddai sefyllfa o’r fath yn “warthus”.

“Mae’r cyfnod trawsnewid mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei gynnig yn golygu ein bod ni, mewn gwirionedd, yn dal yn yr Undeb Ewropeaidd am y ddwy flynedd nesaf.”

 

 

Y cam nesaf

Ddoe, daeth cadarnhad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May fod arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon symud ymlaen i ail gam y trafodaethau.

Telerau’r ddwy flynedd ar ôl yr ymadawiad fydd yn cael eu trafod nesaf.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi egluro y bydd Prydain yn parhau’n atebol i bolisi masnach yr Undeb Ewropeaidd tra bydd yn aelod o’r undeb dollau a’r farchnad sengl, ac yn atebol hefyd i Lys Cyfiawnder Ewrop yn y cyfnod hwn.

 

Ond mae Jacob Rees-Mogg yn mynnu bod sefyllfa o’r fath yn golygu bod Prydain yn israddol i’r Undeb Ewropeaidd o’r herwydd.

Penderfynodd Aelodau Seneddol yr wythnos hon y bydd angen eu sêl bendith nhw cyn dod i gytundeb terfynol ynghylch Brexit – dyma’r tro cyntaf i Aelodau Seneddol Ceidwadol drechu’r Prif Weinidog.