Mae arbenigwr ar faterion seibr wedi dweud wrth bapur newydd y Guardian fod ymgyrchwyr o Rwsia  o geisio dylanwadu ar ymateb y cyhoedd i ganlyniad etholiad annibyniaeth yr Alban yn 2014.

Yn ôl Ben Nimmo, o felin drafod yr Atlantic Council, roedd yr ymgyrchwyr yn gyfrifol am rannu fideos a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn awgrymu bod canlyniad y bleidlais yn annilys.

Llwyddodd y fideos yma i wylltio’r rhai wnaeth pleidleisio o blaid annibyniaeth, ac i gryfhau’r galw am ail refferendwm – mae sawl un wedi cwestiynu dilysrwydd y fideos.

Er ei fod methu â phrofi mai’r Cremlin sydd yn gyfrifol am weithredoedd yr ymgyrchwyr, mae’r arbenigwr yn credu bod angen ymchwiliadau swyddogol i’r mater.

Troliaid

“Mae modd dangos bod yr honiadau o dwyll wedi cael effaith” meddai Ben Nimmo yn ei adroddiad. “Ac mae modd dangos bod cyfrifon oedd o blaid y Cremlin wedi hybu’r honiadau yna.

“Roedd y bobol wnaeth pleidleisio o blaid annibyniaeth wir yn teimlo dicter a siom. Ac mi wnaeth y teimladau yna gael eu hannog gan troliaid oedd o blaid y Cremlin.

“Cafodd hynny ei wneud mewn modd sy’n nodweddiadol o ymgyrchoedd dylanwadu Rwsiaidd.”