Mae dynes wedi cael ei charcharu am bedair blynedd ar ôl i’w chi ymosod ar ddwsin o blant mewn lle chwarae.

Roedd Claire Neal, 39, wedi gadael i’w daeargi, Marley, ffoi o’u cartref a chyflawni’r ymosodiad yn Blyth, Northumberland.

Yn wreiddiol mi roedd hi wedi gwadu’r cyhuddiad gan ddadlau mai’r llysoedd oedd yn gyfrifol am y ci – roedd barnwyr wedi gorchymyn bod y ci yn cael ei ddifa yn dilyn dau ymosodiad arall ar blant.

Ond, penderfynodd hi bledio’n euog cyn i’r ail achos ddechrau.

Neidio a brathu

Dywedodd yr erlyniad wrth Lys y Goron Newcastle, bod y ci wedi cael ei adael yn rhydd heb goler ac wedi dianc o ardd ei thŷ.

Gwnaeth y ci gyrraedd parc lle’r oedd plant yn chwarae ac aeth yn wyllt gan neidio arnyn nhw a’u brathu.

Bu’n rhaid i rieni godi eu plant dros ffensys i’w hachub, ac yn y pendraw llwyddodd dau ddyn i glymu’r ci i fyny.

Ni fydd Claire Neal yn cael bod yn berchen ar gi am weddill ei hoes, a bellach mae’r ci wedi cael ei ddifa.