Mae pump o bobl yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddio tri phlentyn fu farw wedi tân mewn tŷ ym Manceinion.

Bu farw Demi Pearson, 14, yn y tŷ yn Worsley, tra bod ei brawd Brandon, 8, a’i chwaer Lacie, 7, wedi marw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae mam y plant, Michelle Pearson, 35, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty tra bod pedwerydd plentyn, Lia, 3, yn ddifrifol wael.

Dywedodd heddlu Manceinion bod tri dyn, 23, 20 ac 18 oed, a dynes 20 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dyn 24 oed hefyd yn cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Stryd Jackson toc cyn 5yb ddydd Llun.

Roedd dau fachgen 16 oed wedi llwyddo i ddianc o’r tŷ cyn i’r frigâd dân gyrraedd.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod “digwyddiadau blaenorol” wedi bod yn yr eiddo ac mae’r llu wedi cyfeirio ei hun at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad ac yn annog person sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad i fynd at yr heddlu.