Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth tri phlentyn sydd wedi marw mewn tân mewn tŷ y bore ma.

Mae mam y plant – merch 14 oed, bachgen, 8, a merch, 7, – mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ynghyd a phlentyn arall, merch 3 oed.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i’r tŷ yn Worsley, Manceinion toc cyn 5yb ddydd Llun.

Fe lwyddodd dau o bobl i ddianc o’r tŷ cyn i’r frigâd dân gyrraedd ond bu’n rhaid achub pum person arall. Credir mai dau fachgen 16 oed oedd wedi dianc o’r tŷ.

Fe gadarnhaodd yr heddlu yn ddiweddarach bod tri phlentyn wedi marw a’u bod nhw’n trin achos y tân fel un amheus.

Mae’n nhw’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaethau’r plant ac yn dweud eu bod nhw’n awyddus i siarad a pherson sy’n cael ei amau mewn cysylltiad a’r tân.