Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin ddydd Llun (Rhagfyr 11) mae disgwyl i Theresa May ddweud na fydd cytundeb tros unrhyw agwedd o Brexit tan fydd cytundeb llawn.

“Wrth gwrs, does dim cytundeb tros unrhyw beth tan fod cytundeb tros bopeth,” bydd y Prif Weinidog yn dweud yn ddiweddarach heddiw.

“Ond dw i’n credu bod yna ymdeimlad newydd o optimistiaeth yn y trafodaethau yn awr, a dw i’n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn cadarnhau’r trefniadau dw i wedi’u hamlinellu heddiw.”

Codi gwrychyn

Mae sylwadau’r Prif Weinidog yn debygol o godi ambell wrychyn yn Nulyn, gan fod Llywodraeth Iwerddon yn dadlau bod “ymrwymiad gorfodol” wedi’u sefydlu tros fater ffin Iwerddon.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, eisoes wedi corddi’r dyfroedd gan nodi ddydd Sul (Rhagfyr 11) mai dim ond “datganiad o’n hamcanion” sydd wedi’i gynnig gan Brydain hyd yma.

Bydd Theresa May yn annerch Aelodau Seneddol yn dilyn cyfarfod Cabinet – y cyntaf ers i Brydain ac Ewrop gyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb ar seiliau cychwynnol trafodaeth Brexit.