Mae adroddiadau bod Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi ymyrryd mewn ffrae danllyd rhwng y Canghellor Philip Hammond a’r Ysgrifennydd Amddiffyn newydd, Gavin Williamson yn San Steffan.

Fe fu’r ddau yn ffraeo tros doriadau i gyllid y lluoedd arfog, yn ôl y Mail on Sunday.

Mae lle i gredu bod Theresa May wedi gorchymyn y ddau i “dyfu i fyny”.

Yn ôl Gavin Williamson, roedd un o gynghreiriaid Philip Hammond wedi ei gymharu â’r cymeriad Private Pike o’r gyfres Dad’s Army.