Fe fydd Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain, Boris Johnson, yn teithio i Iran, i fynegi “pryderon mawr” tros achos mam sydd wedi’i charcharu yn y wlad.

Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi’i dedfrydu i bum mlynedd dan glo o ganlyniad i honiadau iddi fod yn rhan o gynllwyn i danseilio llywodraeth Iran. Mae hi’n gwadu’n llwyr yr honiadau yn ei herbyn.

Fe gafodd ei harestio yn 2016 yn ystod gwyliau lle’r oedd hi wedi bod yn dangos ei merch fach newydd, Gabriella, i’w rhieni.

Mae adroddiadau y gallai Nazanin Zaghari-Ratcliffe ymddangos gerbron llys eto ddydd Sul (Rhagfyr 10), a hynny er mwyn ymestyn y ddedfryd. Roedd Boris Johnson wedi gwneud datganiad yn dweud fod y fam wedi treulio cyfnod yn Iran yn “hyfforddi newyddiadurwyr”, cyn gorfod ymddiheuro am ei gamgymeriad.

Mae ei gwr, Richard Ratcliffe, yn dweud ei fod “ar bigau’r drain” yn aros ymweliad Boris Johnson ag Iran.