Mae swyddog gwrth-frawychiaeth a adawodd ddogfennau cyfrinachol yn ei gar tra’r oedd ar ei wyliau, wedi derbyn dirwy.

Roedd Marcus Beale, Prif Gwnstabl Cynorthwyol a phennaeth adran brawychiaeth Heddlu Canolbarth Lloegr, wedi gadael y papurau yng nghefn ei gar am bum diwrnod.

Cafodd y dogfennau eu dwyn o’r car ym mis Mai, a hyd yn hyn does neb wedi medru dod o hyd iddyn nhw.

Roedden nhw’n cynnwys gwybodaeth am frawychiaeth ac ymchwiliadau cysylltiedig.

Gerbron Llys Ynadon Westminster, gwnaeth Marcus Beale, 54, dderbyn dirwy £3,500, a bellach mae wedi’i wahardd dros dro o’i swydd.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o fethu â diogelu gwybodaeth dan y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.