Ddylai pobol o wledydd Prydain sy’n ymladd tros y Wladwriaeth Islamaidd ddim cael eu derbyn yn ôl adref, meddai Ysgrifennydd Amddiffyn llywodraeth San Steffan.
Yn ôl Gavin Williamson, fe ddylai’r rheiny sy’n benderfynol o greu “dinistr, marwolaeth a thywallt gwaed” ar strydoedd gwledydd Prydain gael eu “hela” er mwyn “dileu” y bygythiad.
“All brawychwyr marw ddim gwneud niwed i neb ar strydoedd Prydain,” meddai’r gwleidydd mewn cyfweliad â phapur newydd The Daily Mail.
“Mae ein lluoedd arfog yn gweithio ledled y byd er mwyn gwneud yn siwr nad ydi jihadis yn gallu dychwelyd adref.
“Dw i ddim yn credu y dylai’r un brawychwr, p’un ai ydyn nhw’n dod o Brydain ai peidio, fyth gael caniatad i ddod i mewn i’r wlad hon.
“Mae llawer o’r hyn sy’n digwydd ym Mhrydain o ran brawychiaeth, yn dechrau mewn llefydd fel Libya, Irac a Syria,” meddai Gavin Williamson wedyn.
“Ein gwaith ni yw dileu hyn.”
Mae cannoedd o ddinasyddion Prydeinig wedi teithio i Syria i ymladd gyda grwpiau Islamaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.