Mae nifer y bobol sydd wedi’u harestio ar amheuaeth o fod yn frawychwyr, wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mae ystadegau sydd wedi’u rhyddhau heddiw yn dangos bod 400 o bobol yn y ddalfa yn dilyn digwyddiadau yng ngwledydd Prydain.

Dyma’r ffigwr uchaf ers i’ rawdurdodau ddechrau cofnodi yn 2001, ac mae’n naid o 54% ar y nifer oedd yn y ddalfa ddiwedd Medi 2016.

Mae’r Swyddfa Gartref yn dweud fod y cynnydd o ganlyniad i nifer y bobol gafodd eu harestio yn dilyn ymosodiadau brawychol Llundain a Manceinion eleni.