Mae dyn wedi bod o flaen llys yn Llundain wedi’i gyhuddo o gynorthwyo brawychwyr posib trwy rannu gwybodaeth am un o wyrion y Frenhines.

Y cyhueddiad yw fod Husnain Rashid, 31, wedi rhannu cyfeiriad ysgol y Tywysog George ar app Telegram, ynghyd â negeseuon eraill a allai fod o gymorth i ymwelwyr â gwledydd Prydain wrth geisio dod o hyd i “dargedau posib”.

Mae erlynwyr hefyd yn honni bod Husnain Rashid yn bwriadu teithio i Syria er mwyn ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae disgwyl i’r diffynnydd ymddangos eto gerbron yr Old Bailey ar Ragfyr 20.