Mae disgwyl i Theresa May ddychwelyd i Frwsel cyn diwedd yr wythnos hon wedi iddi fethu â sicrhau cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ddoe fyddai wedi symud y trafodaethau yn eu blaen.

Daw hyn wedi i blaid y DUP, sy’n cefnogi’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, wrthod cynnig fyddai’n lleddfu’r ffin fasnach rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ond yn ei thynhau â gweddill y Deyrnas Unedig.

Mi ddywedodd Arlene Foster, arweinydd y DUP, na fyddai’n derbyn unrhyw gytundeb fyddai’n “gwahanu” Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill gwledydd Prydain.

Mi fydd raid i Theresa May geisio adfer y trafodaethau yn awr i gael cynnig yn ei le cyn wynebu gweddill cenhedloedd yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos nesaf (Rhagfyr 14 – 15) lle byddan nhw’n trafod y cytundeb masnach.

Mae disgwyl iddi gwrdd a’i Chabinet y bore ma i drafod y camau nesaf.

‘Cynnig arbennig’

Ychwanegodd Leo Varadkar, Prif Weinidog Iwerddon, ddoe ei fod wedi “synnu a’i siomi” gan benderfyniad Theresa May i ofyn am fwy o amser am fod y cytundeb wedi’i gytuno arno gan y Comisiwn Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a’r Weriniaeth, meddai.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter neithiwr mi ddywedodd Carwyn Jones – “ni allwn ganiatáu i rannau o’r Deyrnas Unedig gael eu trin yn fwy ffafriol nag eraill. Os yw un rhan o’r DU yn cael aros yn rhan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yna rydym ninnau hefyd yn llawn ddisgwyl cael yr un cynnig.”

Mae hyn yn adleisio sylwadau gan Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a Sadiq Khan, Maer Llundain, sy’n dweud y bydden nhw am gael cynnig arbennig pe bai Gogledd Iwerddon yn llwyddo i gael hynny.