Mae Prydain ac Ewrop wedi methu â dod i gytundeb dros sawl mater allweddol yn gysylltiedig â Brexit, yn ystod cyfarfodydd ym Mrwsel heddiw.

Mae disgwyl i drafodaethau ail ddechrau’r wythnos nesaf, ond mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May  a ffigyrau blaenllaw’r Undeb Ewropeaidd yn hyderus daw diwedd i’r anghydfod cyn canol y mis.

Er i gyfarfodydd heddiw ddechrau ag arwyddion o gynnydd a chytuno, daeth i’r amlwg wedi canol dydd bod ffin Iwerddon yn parhau’n faen tramgwydd.

Bellach mae adroddiadau’n awgrymu bod ‘trefniadau arbennig’ yn cael eu hystyried ar gyfer Gogledd Iwerddon – trefniadau fyddai’n arwain at ffin economaidd yn codi rhwng gwledydd Prydain ac Ynys Iwerddon.

Ymateb

Mae’r trefniant yn sicr o godi gwrychyn ymysg unoliaethwyr ac mae’r DUP wedi rhybuddio y byddan nhw’n gwrthwynebu cytundeb Brexit fyddai’n gwahanu Gogledd Iwerddon rhag gweddill gwledydd Prydain.

Mae’r mater hefyd wedi corddi llywodraethau datganoledig, gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud y dylai unrhyw ‘drefniadau arbennig’ gael eu cynnig i holl wledydd Prydain.