Mae’r cwmni gwerthu teganau, Toys R Us, wedi cyhoeddi cynlluniau i gau o leiaf traean o’u siopau yn y Deyrnas Unedig.
Nod y cwmni yw cael gwared ag o leiaf 26 siop sydd yn gwneud colled – mi fyddai hyn yn arwain at rhwng 500 a 800 o bobol yn colli eu swyddi.
Mae Toy R Us wedi dweud eu bod yn bwriadu osgoi diswyddiadau trwy symud rhai aelodau staff i siopau eraill. Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd os fydd siopau yng Nghymru yn cau.
“Rhy ddrud”
Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Toys R Us ym Mhrydain, Steve Knights, mae siopau anferth y cwmni bellach yn “rhy ddrud i’w rhedeg” a rhaid “trawsnewid y busnes”.
“Mae’n rhaid i ni drawsnewid ein busnes fel bod gennym ni blatfform i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid – anghenion sydd yn newid o hyd,” meddai Steven Knights.
Agorodd Toys R Us eu pum siop gyntaf ym Mhrydain, yn 1985. Bellach mae ganddyn nhw 84 siop, ac mae’r cwmni’n cyflogi 3,200 o bobol.