Mae gwefan gymdeithasol Facebook wedi cyhoeddi eu bod yn agor swyddfeydd newydd yn Llundain gan greu 800 o swyddi newydd.

 

Mae disgwyl y bydd y swyddi yn Rathbone Place yng nghanol Llundain yn canolbwyntio ar beirianneg gan fwyaf.

 

Mi fydd y swyddi’n golygu y bydd y cwmni o’r Unol Daleithiau yn cyflogi 2,300 o bobol yn y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2018.

 

Mae’r newyddion hwn yn dangos fod Facebook “yn fwy ymrwymedig nag erioed i’r Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

 

Ychwanegodd Maer Llundain Sadiq Khan fod y cyhoeddiad hwn yn un “arbennig” ac y bydd yn “denu talent hollbwysig i Lundain.”