Dyw Iwerddon “ddim eisiau” arafu proses Brexit, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog newydd y wlad, Simon Coveney.

Dywedodd nad yw’r llywodraeth yn bwriadu atal y broses rhag mynd yn ei blaen, a hynny’n dilyn rhybudd gan y Taoiseach Leo Varadkar ei fod yn barod i sefyll ei dir yn y ffrae tros ffiniau.

Dywedodd Simon Coveney wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod Iwerddon am geisio ateb sy’n “golygu bod y Deyrnas Unedig yn gweithredu’n unedig”.

“Fyddwn ni’n sicr ddim yn rhoi feto ar unrhyw beth – hynny yw, mae Llywodraeth Iwerddon, fel Llywodraeth Prydain, eisiau eu bod yn gallu symud y broses Brexit yn ei blaen i gam dau ac rydyn ni eisau darparu’r math o sicrwydd y mae nifer o fusnesau’n galw amdano ym Mhrydain ac Iwerddon ac mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd.

“Felly galla i ddweud wrthoch chi nad oes dymuniad yn Iwerddon i arafu’r broses hon ond ar yr un pryd, mae gennym ni ddyletswydd fel Llywodraeth i gynrychioli buddiannau ynys Iwerddon – gogledd a de – a gadewch i ni beidio ag anghofio mai’r flwyddyn nesaf fydd ugain mlwyddaint cytundeb Gwener y Groglith, sy’n sail i’r broses heddwch a pherthnasau rhwng Prydain ac Iwerddon ar ynys Iwerddon.”

Pwysigrwydd y ffin

Eglurodd Simon Coveney fod potensial i Iwerddon gael ei chosbi trwy broses Brexit pe na bai mater y ffiniau’n cael ei ddatrys yn ddigonol.

Dywedodd fod cydweithio rhwng y de a’r gogledd wedi sicrhau heddwch dros nifer o flynyddoedd, ond y gallai mater Brexit, pe na bai’n cael ei ddatrys, beryglu’r heddwch.

O dan yr amgylchiadau hynny, fe allai Iwerddon atal ail gam y broses yn ôl eu hawl fel un o 27 o wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk eisoes wedi dweud y bydd yn ymgynghori ag Iwerddon tros y cytundeb â Llywodraeth Prydain.

Dywedodd Simon Coveney y byddai Iwerddon yn ceisio sicrwydd yn ystod y cam cyntaf fod ateb boddhaol yn bosibl yn ystod cam dau.

“Hoffen ni weld ateb yma sy’n datrys materion y ffiniau, sy’n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan yn gweithredu fel un.”

Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn teithio i Frwsel ddydd Llun i gyfarfod â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker.