Mae holl aelodau bwrdd Comisiwn Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth Prydain wedi ymddiswyddo o ganlyniad i ddiffyg cynnydd wrth anelu am “Brydain decach”.

Dywedodd pennaeth y Comisiwn, Alan Milburn fod ganddo fe “ychydig iawn o obaith” fod gan y Llywodraeth y gallu i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni’r nod.

Mae’r ymddiswyddiadau’n debygol o fod yn gryn ergyd i Brif Weinidog Prydain, Theresa May sydd wedi bod yn addo ers dechrau yn ei swydd y byddai hi’n mynd i’r afael ag anghyfiawnderau cymdeithasol sy’n effeithio ar bobol dlawd.

‘Proses agored’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod yr ymddiswyddiadau wedi’u cyflwyno ar ôl i Alan Milburn gael gwybod y byddai cadeirydd newydd yn cael ei benodi yn dilyn proses geisiadau agored.

Yn ei lythyr yn ymddiswyddo, dywedodd fod y ffaith fod Llywodraeth Prydain yn rhoi cymaint o bwys ar Brexit yn golygu nad oes ganddyn nhw’r adnoddau i sicrhau bod gwelliannau’n digwydd wrth geisio “gwella rhaniadau cymdeithasol”.

Ychwanegodd: “Mae gen i ychydig iawn o obaith y bydd y Llywodraeth bresennol yn gwneud y cynnydd dw i’n credu sy’n angenrheidiol i greu Prydain decach.

“Mae’n ymddangos nad yw’n gallu ymroi i ddyfodol y comisiwn fel corff annibynnol na rhoi digon o flaenoriaeth i’r her symudedd cymdeithasol y mae ein cenedl yn ei hwynebu.”

Daw’r ymddiswyddiadau ddyddiau’n unig ar ôl i’r Comisiwn rybuddio y byddai cynnydd mewn eithafiaeth asgell dde neu chwith pe na bai’r mater yn cael digon o sylw.

‘Dim syndod’

Wrth ymateb i’r helynt, dywedodd gweinidog yn y swyddfa gabinet cysgodol, Jon Trickett nad yw’r ymddiswyddiadau’n “peri syndod”.

“Wrth i anghydraddoldeb dyfu o dan y Torïaid, mae symudedd cymdeithasol wedi dod i stop yn llwyr. Mae Theresa May wedi gwobrwyo’r cyfoethog gan ddal pawb arall yn eu hôl.

“Nid yw’n peri syndod o gwbl fod yr holl Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol wedi ymddiswyddo yn eu rhwystredigaeth. O dan y Torïaid, mae pa mor dda mae pobol yn dod ymlaen yn eu bywydau’n dal yn seiliedig ar gefndir dosbarth cymdeithasol yn hytrach na thalent neu ymdrech.”

‘Ymrwymiad’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod y llywodraeth “wedi ymroi i ymladd yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a sicrhau bod gan bawb y cyfle i fynd mor bell ag y bydd eu doniau’n mynd â nhw”.

Wrth bwysleisio cynnydd o ran y cyflog byw, y dreth incwm a gofal plant, ychwanegodd y llefarydd: “Rydym yn derbyn bod rhagor i’w wneud a dyna pam ein bod ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar ardaloedd dan anfantais lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf.”