Fe fydd y lleuad yn ymddangos yn fawr, fawr yn yr awyr dros y penwythnos, wrth i’r ‘Lleuad Oer’  ddod yn agosach at y ddaear nag arfer.

Dydi’r lleuad ddim yn troi o gwmpas y ddaear ar lwybr cylch perffaith, ac felly ar adegau prin o’r flwyddyn mae’r lleuad yn agosach at y Ddaear nag ar adegau eraill.

A dyna’n union fydd yn digwydd ddydd Sul (Rhagfyr 3), gan olygu bydd y lleuad ymddangos yn fwy ac yn ddisgleiriach.

Bydd y lleuad rhyw 16,000 milltir yn nes at y ddaear, ond mae’n debyg mai rhith meddyliol fydd yn gwneud i’r lloeren ymddangos yn fwy.

Rhith

“Rhith wedi’i greu gan y meddwl fydd hyn,” meddai Tom Kerss, Seryddwr o Arsyllfa Frenhinol Greenwich.

“Bydd y lleuad yn agosach i’r gorwel, a dyna sy’n achosi’r rhith.”